Ystadegau yn GLlTEM

Sut i gael hyd i ddata ystadegol a dadansoddiadau am y llysoedd a’r tribiwnlysoedd.


Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn cyhoeddi gwybodaeth reolaethol yn fisol i roi mesurau amserol a chyson o weithrediad y system llysoedd a thribiwnlysoedd.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyhoeddi ystadegau chwarterol swyddogol yn ymwneud â gweithrediad systemau cyfiawnder troseddol a sifil, yn cynnwys llysoedd a thribiwnlysoedd.

Yn ystod y pandemig COVID-19, mae GLlTEM yn cyhoeddi gwybodaeth reolaethol ychwanegol a ddefnyddir i ddeall yr effaith ar lwythi gwaith a gweithgarwch yn genedlaethol.

Yn sgil natur systemau gweinyddol mawr, fel riportio achosion yn hwyr, bydd y ffigurau’n cael eu hadolygu ym mhob cyhoeddiad. Felly, dylid bod yn ochelgar o hyn. Bychan ydi’r newidiadau ac nid ydynt fel rheol yn newid darlun cyffredinol perfformiad.

Pynciau

Gwybodaeth Reolaethol

Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar sut rydym yn cyflwyno’r Wybodaeth Reolaethol yn fisol i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion defnyddwyr. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw adborth neu gwestiynau am ein cyhoeddiadau gwybodaeth reolaethol.

Gwybodaeth Reolaethol GLlTEM yn fisol
Cyhoeddiad misol sy’n edrych ar ddealltwriaeth o lwythi gwaith ac amseroldeb yn genedlaethol.

Gwybodaeth Reolaethol GLlTEM yn wythnosol yn ystod y pandemig COVID-19
Gwnaethom gyhoeddi’r wybodaeth hon yn ystod y pandemig COVID-19 i helpu i egluro sut gwnaethom gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, o Fehefin 2020 hyd Mehefin 2021. Ym mis Gorffennaf 2021, gwnaethom oedi cyhoeddi’r wybodaeth hon tra’r oeddem yn cynnal adolygiad. Yn dilyn yr adolygiad hwn, gwnaethom roi’r gorau i gyhoeddi data yn wythnosol am fod hyn yn cael ei gynnwys yn Gwybodaeth Reolaethol GLlTEM yn fisol.

Gwybodaeth am y defnydd wythnosol o dechnolegau gwrandawiadau o bell GLlTEM (gwrandawiadau sain a fideo)
Bu i ni gyhoeddi data o Ebrill 2020 hyd Mai 2021, ar y defnydd o dechnolegau sain a fideo i hwyluso gwrandawiadau llysoedd a thribiwnlysoedd, law yn llaw â gwrandawiadau wyneb yn wyneb. Gwnaethom sicrhau ein bod yn dryloyw am y defnydd o’r technolegau hyn, fel un o’n hymatebion i’r argyfwng COVID-19. Rhoesom y gorau i gyhoeddi’r wybodaeth hon yn fisol i ganolbwyntio ar ein Gwybodaeth reolaethol GLlTEM yn fisol ar effaith y pandemig ar lwythi gwaith ac amseroldeb ar draws awdurdodaethau yn genedlaethol. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw adborth neu gwestiynau am ein cyhoeddiadau Gwybodaeth Reolaethol.

User guide to HMCTS management information (PDF, 898 KB, 14 pages)

Ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Cyhoeddiadau rhyddid gwybodaeth o 2018 yn cynnwys gwybodaeth reolaethol GLlTEM.

Cyhoeddiadau rhyddid gwybodaeth o 2019 yn cynnwys gwybodaeth reolaethol GLlTEM.

Defnyddio’r Cod Ymarfer Ystadegau yn wirfoddol

Mae GLlTEM yn defnyddio’r Cod Ymarfer Ystadegau wrth gyhoeddi ei wybodaeth reolaethol.

HMCTS voluntary application of the code of practice for statistics

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Cyhoeddiadau sydd ar y gweill

Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth reolaethol fisol ar ail ddydd Iau pob mis am 9:30am. Cynhwysir y dyddiadau isod:

  • Dydd Iau 13 Ionwar 2022
  • Dydd Iau 10 Chewfror 2022
  • Dydd Iau 10 Mawrth 2022
  • Dydd Iau 14 Ebrill 2022
  • Dydd Iau 12 Mai 2022
  • Dydd Iau 9 Mehefin 2022
  • Dydd Iau 14 Gorfennaf 2022
  • Dydd Iau 11 Awst 2022

Cysylltwch â ni

Am ymholiadau ynglŷn â’n hystadegau, anfonwch e-bost at Dadansoddi a Pherfformiad GLlTEM os gwelwch yn dda.